Beth fydd yn digwydd nesaf

Mae’r rhan fwyaf o brosiectau seilwaith mawr yng Nghymru yn cael eu hystyried fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Fodd bynnag, o ganlyniad i newid i’r grymoedd sydd wedi’u datganoli i Weinidogion Cymru, mae’n rhaid i rai cynlluniau sydd y tu allan i’r broses DNS gael eu hystyried o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (y TWA) yn lle hynny. Bydd hyn yn wir hyd nes y daw proses Cydsynio Seilwaith newydd i rym ar gyfer Cymru.

Gall gorchmynion a wneir o dan y TWA awdurdodi mathau penodol o brosiectau seilwaith yng Nghymru yn unig, er enghraifft gwaith sy’n ymyrryd â hawliau mordwyo mewn dyfroedd hyd at derfynau’r môr tiriogaethol. Mae hyn yn cynnwys pontydd, pierau, morgloddiau, twneli ac ati.

Yn aml, mae angen i hyrwyddwyr cynlluniau o’r math hwn gael ystod o rymoedd i roi eu cynllun ar waith.

O dan y TWA, gall hyrwyddwr wneud cais i Weinidogion Cymru am orchymyn sy’n rhoi’r grymoedd hynny. Adwaenir y gorchymyn, os caiff ei wneud, fel gorchymyn TWA. Nid caniatâd cynllunio yw gorchymyn TWA, ond gall yr ymgeisydd ofyn i Weinidogion Cymru roi caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad a ddisgrifir yn y gorchymyn ar yr un pryd.

Gall y grymoedd y gellir eu rhoi mewn gorchymyn TWA fod yn amrywiol iawn a gallant gynnwys grymoedd i gynnal a defnyddio gwaith sy’n ymyrryd â hawliau mordwyo, grymoedd gorfodol i brynu tir, yr hawl i ddefnyddio tir (er enghraifft, i gael mynediad neu ar gyfer safle gwaith), diwygio neu eithrio deddfwriaeth arall a chau neu newid ffyrdd a llwybrau troed, ymhlith pethau eraill.

Gallai rhoi’r cynllun ar waith effeithio ar fwynhad pobl o’u heiddo ac effeithio ar yr amgylchedd. Oherwydd hyn, mae’n rhaid i geisiadau am orchmynion TWA ddilyn gweithdrefn benodol sy’n rhoi cyfle i bobl leisio’u barn am y cynigion.

Ystyrir ceisiadau am Orchmynion gan Arolygydd Cynllunio a benodwyd a fydd yn ystyried tystiolaeth a chynrychiolaethau a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a chyrff ac unigolion eraill â buddiant. Yna, bydd yr Arolygydd yn cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru sy’n argymell p’un a ddylai’r Gorchymyn gael ei wneud a ph’un a ddylai unrhyw ganiatâd cynllunio y gofynnwyd amdano gan yr ymgeisydd gael ei roi. Gweinidogion Cymru sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.